CROESO I RANBARTH CYFREITHWYR IAU SIR GAER A GOGLEDD CYMRU
Mae CNWJLD wedi ymrwymo i ofalu am fuddiannau ei aelodau a’i fwriad yw darparu cymorth a chefnogaeth pan fo’r angen. I weld eiFfurfiwyd Rhanbarth Cyfreithwyr Iau Sir Gaer a Gogledd Cymru (CNWJLD) yn ddiweddar I adlewyrchu’r newidiadau cenedlaethol a waned i Grŵp Cyfreithwyr Dan Hyfforddiant (TSG) a Grŵp Cyfreithwyr Ifainc (YSG). Daeth y GCI I ben yn swyddogol ar 30 Mehefin 2007 a pharhaodd GCDH i weithredu hyd ddiwedd Tachwedd 2007.
Ceir llawer o fanteision o ymuno â RhCISGGC. Gellwch ddod o hyd i fwy o fanylion ynglŷn â manteision ymaelodi yn yr adran ymuno (join section). Mae rhai o’r manteision yn cynnwys:
- Mynediad am ddim i’r rhan fwyaf o’n gweithgareddau
- Cyngor amhrisiadwy ar yrfâu gan noddwyr ein gweithgareddau cymdeithasol
- Y cyfle I gymryd rhan yn y Cynllun Dilyn Barnwr Rhanbarthol
- Cwrdd ag aelodau eraill a chyfnewid profiadau
Mae CNWJLD wedi ymrwymo i ofalu am fuddiannau ei aelodau a’i fwriad yw darparu cymorth a chefnogaeth pan fo’r angen. I weld eich pwyyllgor am 2007/2008 ac i gysylltu â ni, ewch i'r adran pwyllgor (committee section). Cewch fwy o wybodaeth am swyddogaethau amrywiol y Pwyllgor yn Adran Amdanom Ni ( About Us ).
Mae CNWJLD yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol gydol y flwyddyn. Gellir dod o hyd i'r rhain yn yr adran weithgareddau (events section). Mae ein gweithgareddau’n amrywio o’r gweithgareddau traddodiadol fel trafodaethau anffurfiol a sgyrsiau, i noson cwis ar gyfer achosion da, nosweithiau cymdeithasol a’n digwyddiad ‘gala’ blynyddol. Mae ein digwyddiadau yn gyfle rhagorol i'n haelodau ddod at ei gilydd a cheisio cyngor eu cyd-aelodau proffesiynol.
Gellir gweld lluniau o’n gweithgareddau cymdeithasol yn oriel (gallery).
Ewch i'r adran newyddion (news section) am y wybodaeth ddiweddaraf am CNWJLD a’r hyn rydyn ni wedi bod yn ei wneud.
'N Dirion sponsored at